Mae Rhondda Gryfach yn rhwydwaith o sefydliadau, grwpiau ac unigolion a arweinir gan y trydydd sector neu’r sector gwirfoddol yn y Rhondda sy’n dathlu rhagoriaeth ac yn herio difaterwch. Croesawn drafodaeth gadarnhaol, greadigol a beirniadol.

 

strongerrhondda.wales

Mae Talwrn yn gynghrair o sefydliadau amrywiol yn y sector gwirfoddol gyda’u dibenion unigol eu hunain ond sy’n cynorthwyo pobl a chymunedau yng Nghymru. Maent wedi dod at ei gilydd i ddatblygu gwybodaeth a chreu ffyrdd o gydweithio a chydgynhyrchu gwaith. Mae’r gynghrair yn gweithio i herio ei gilydd, darparu cymorth a chyngor, datblygu prosiectau newydd, galluogi dysgu a llywio’r sector gwirfoddol cyfan.

 

talwrn.org.uk

 

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn cynorthwyo ac yn cynrychioli trydydd sector Cymru.

wcva.org.uk

Interlink yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Rhondda Cynon Taf, gan gynorthwyo unigolion, cymunedau a sefydliadau i gydweithio i gael effaith gadarnhaol ar fywyd pobl sy’n byw ac yn gweithio yn Rhondda Cynon Taf a hefyd ym Merthyr Tudful gyda Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT). Maent yn gweithredu fel corff mantell neu ganolbwynt i gynorthwyo dros 550 o aelodau drwy helpu i gynllunio a datblygu prosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau yn ogystal â helpu aelodau i gynllunio a rheoli’r hyn maent yn ei wneud.

 

 

interlinkrct.org.uk