Mae Pobl a Gwaith yn gwmni dielw ac elusen gofrestredig sydd wedi gweithredu ym maes ymchwil addysg, economaidd a chymdeithasol ers 1984. Mae ganddo Fwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol.

Mae Pobl a Gwaith yn ceisio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl drwy ei ddull deuol o waith ymchwil a gwerthuso o ansawdd uchel a phrosiectau ymchwil weithredu arloesol. Mae ganddo dîm cryf o ymchwilwyr cymwys a phrofiadol iawn sy’n goruchwylio ein holl waith ymgynghoriaeth yn drylwyr ac yn feirniadol.

Mae unrhyw warged a enillir drwy ein contractau ymchwil a gwerthuso yn mynd i mewn i’n gwaith ymchwil weithredu. Mae’r gwaith hwn yn buddsoddi’n drwm mewn unigolion, gan dargedu’r buddsoddiad hwn at y rhai a all gael yr effaith fwyaf ar eu cymuned.

 

Adnoddau Pobl a Gwaith

Mae gan Pobl a Gwaith naw aelod o staff a bwrdd o naw ymddiriedolwr. Yn ogystal mae sawl swyddog cyswllt sy’n aml yn cymryd rhan yn ei waith.

Yn 2014 dathlodd Pobl a Gwaith dri deg mlynedd o brofiad o brosiectau ymchwil, gwerthuso ac ymchwil weithredu.

Mae’r gwaith hwn wedi cwmpasu:

  •     Ymchwil i lywio ein gwaith prosiect ein hunain ym maes adfywio cymunedol ac ar gyfer cleientiaid allanol; a
  •     Gwerthusiadau mewnol o’n gwaith ein hunain a gwaith cleientiaid allanol.

Mae gan Pobl a Gwaith offer ac arbenigedd dadansoddi data mewnol yn ogystal â mynediad i systemau ac adnoddau allanol yn ôl y galw.

Mae ein gwaith ers 2006 wedi cynnwys

  •    Cymunedau Dynamig (2012 – ymlaen). Dysgu sut i ddefnyddio chwaraeon a gweithgareddau corfforol fel ffordd o annog unigolion a theuluoedd i ymgysylltu â datblygu eu cymunedau eu hunain. Cyllidwyd gan Comic Relief.
  •     Families & Schools Together Achieve (2012). Annog disgyblion meithrin a Blwyddyn 1 a’u teuluoedd i ymwneud â straeon a llyfrau mewn amgylchedd anffurfiol a hwyl. Cyllidwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
  •     Build It Glyncoch (2008 – 2013). Prosiect a ddatblygodd y prosiect Build It cynharach gan weithio gyda Phartneriaeth Gymunedol Glyncoch i hyrwyddo prentisiaethau yn y diwydiant adeiladu a gwaith meithrin gallu ac adnoddau. Cyllidwyd gan Sefydliad Rank.
  •     Cymunedau sy’n Canolbwyntio ar Ysgolion (2009 – 2012).   Wedi’u lleoli mewn pum partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf a dwy ysgol uwchradd, helpodd y prosiect hwn ddisgyblion ysgol uwchradd a’u teuluoedd i fanteisio i’r eithaf ar eu haddysg drwy ddarparu cymorth. Cyllidwyd gan Sefydliad Paul Hamlyn a Chronfa Arddangos Cymunedau yn Gyntaf.
  •     Cymunedau sy’n Canolbwyntio ar Ysgolion (2009 – 2015). Astudiaeth garfan sy’n cynorthwyo 45 o bobl ifanc o un gymuned wrth iddynt symud ymlaen drwy’r ysgol uwchradd ac i mewn i ddysgu ôl-16. Wedi’u lleoli yn eu cymuned, gweithiodd y prosiect gyda’u teuluoedd a’u hysgol. Cyllidwyd gan Sefydliad Paul Hamlyn.
  •     Cyfle i Ddysgu (2008 – 2015). Prosiect a leolwyd yng Nghlyncoch a geisiodd gynnwys y gymuned mewn cyfleoedd dysgu, gan geisio mynd i’r afael â’r diffyg dilyniant i addysg bellach ac uwch yn dilyn addysg orfodol. Cyllidwyd gan Sefydliad Esmee Fairbairn.

 

Prosiectau datblygu blaenorol

  •     Life Support (2003 – 2008). Prosiect sy’n darparu hyfforddiant ym maes iechyd a gwaith meithrin gallu i bobl ifanc leol sy’n ceisio dechrau ar yrfa ym maes gofal iechyd proffesiynol. Cyllidir gan Sefydliad Oak, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Sefydliad Rank.
  •     Build It (2002 – 2007). Prosiect a gyflogai bobl ifanc leol gan ddarparu hyfforddiant mewn crefftau adeiladu a gwaith i feithrin gallu ac adnoddau. Cyllidwyd gan Sefydliad Rank, Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo.