Mae Appening Rhondda yn ddull cydweithredol rhwng ysgolion, elusennau a busnesau preifat i feithrin sgiliau datblygu TG ymhlith pobl ifanc Rhondda.
Cafodd ei greu o waith mewn partneriaeth Rhondda Gryfach, menter i ddod â phobl a grwpiau yng Nghymoedd y Rhondda at ei gilydd i ddiwallu anghenion lleol. Sefydlwyd y prosiect i fynd i’r afael â’r pryder cynyddol nad yw llawer o fyfyrwyr yn cael eu herio ym maes datblygu technoleg. Cafwyd llawer o bobl ifanc â sgiliau wedi’u datblygu’n naturiol ym maes codio a dylunio ond nad oeddent yn cael y cyfle i archwilio’r diddordebau hynny cyn symud ymlaen i’r 6ed dosbarth, y coleg neu fyd gwaith.
Sut mae’n gweithio?
Daeth grŵp o bum person ifanc at ei gilydd am wythnos lawn er mwyn rhoi cyfle iddynt weithio o dan fentoriaeth datblygwyr apiau proffesiynol a chreu ap o’r dechrau i’r diwedd.
Mae wythnos datblygu Appening Rhondda yn cynnwys:
Diwrnod 1 – Cwrdd â’r cleient a pharatoi brîff datblygu
Diwrnod 2 – Dechrau adeiladu’r ap yn seiliedig ar y brîff
Diwrnod 3 – Astudio’r broses o godio’r ap yn fanwl
Diwrnod 4 – Gorffen datblygu a phrofi’r ap
Diwrnod 5 – Paratoi deunyddiau marchnata ar gyfer yr ap
Os hoffech ddysgu rhagor am ddylunio a datblygu apiau, cysylltwch â’r Arweinydd Prosiect, Ben Treharne-Foose.
Mae Appening Rhondda yn cael ei reoli gan Pobl a Gwaith mewn partneriaeth â’r Ffatri Gelf (Glynrhedynog) a Stiwdios Candlhat (Llantrisant). Ariennir gan ymddiriedolaeth leol.