
Dod o hyd i atebion – gwneud newid yn bosibl
Ynglŷn â Phobl a Gwaith
Mae Pobl a Gwaith yn elusen annibynnol (a sefydlwyd ym 1984) sy’n gweithio yng Nghymru.
Mae’n ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd yng Nghymru trwy ei ddwy swyddogaeth graidd:
- hyrwyddo gwerth addysg a dysgu fel offeryn ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a hyrwyddo cyflogaeth, trwy raglen o brosiectau ymchwil gweithredu cymunedol.
- i ymgymryd â gwaith ymchwil a gwerthuso ar gyfer y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru gan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn meysydd fel addysg, iechyd a chyflogaeth.
Mae’r fideo ar y dudalen hon yn archwilio rhywfaint o feddwl ar y cyd â phartneriaid am bŵer lle i ddatblygu canlyniadau cadarnhaol i unigolion, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru ac mae’n seiliedig ar ein profiad prosiect ymarferol dros 30 mlynedd (y mae rhywfaint ohono wedi’i gynnwys) ac astudiaethau ymchwil academaidd a noddwyd gan People & Work (gan gynnwys tair astudiaeth PhD).