
Rhwydwaith o naw sefydliad ledled Cymru yw hwn sy’n ymroddedig i ddatblygu’r economi sylfaenol leol (gweithgareddau economaidd hanfodol sydd eu hangen ar bob cymuned) ac arweinwyr lleol a fydd yn cyfrannu at eu hardal leol. Mae cyfranogwyr y rhwydwaith wedi’u lleoli mewn ardaloedd a arferai gael eu dominyddu gan dri diwydiant sydd wedi helpu i ddiffinio Cymru – llechi, glo ac amaethyddiaeth. Mae Llechi, Glo a Chefn Gwlad wedi bod yn rhedeg ers 2020, gyda chefnogaeth Sefydliad Rank (rhaglen Amser i Ddisgleirio) a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae Pobl a Gwaith yn aelod sefydlu. Mae’r rhwydwaith yn bwriadu parhau i gydweithio y tu hwnt i’w gyllid cychwynnol o dair blynedd.
Yn ddiweddar, cyfarfu’r rhwydwaith â gwleidyddion ac arweinwyr eraill ym Mae Caerdydd i rannu’r hyn a ddysgwyd o’r tair blynedd sy’n parhau i effeithio ar bob un o’r naw cymuned. Cyflwynodd Dr Sarah Lloyd-Jones y sesiwn: