Prosiectau ymchwil gweithredu cymunedol
Dros nifer o flynyddoedd mae Pobl a Gwaith wedi canolbwyntio ar bwysigrwydd lle fel cymhelliant ar gyfer cynnwys y gymuned a mesur o effaith cynnwys y gymuned. Mae ein dull wedi esblygu dros y blynyddoedd o weld ‘lle’ fel lle mae gwaith yn digwydd ac, yn aml, yn darparu’r cyd-destun ar gyfer pam mae gwaith yn digwydd; i fod y cwlwm sy’n cysylltu pobl ac, gan dynnu ar y cysyniad Cymreig o gynefin, yn darparu’r pŵer a’r cryfder y tu ôl i newid cymunedol.
Rydym wedi symud i weithio gyda chymunedau, ac o fewn y cymunedau hynny, yn eu lle. Rydym bellach yn canolbwyntio ar gefnogi’r bobl yn y cymunedau hynny sydd â Syniadau datblygu. Yn Rhondda dros yr wyth mlynedd diwethaf rydym wedi cyflogi 19 o bobl leol (y rhan fwyaf ohonynt o dan 25 oed) ar gymysgedd o gontractau blwyddyn a thair blynedd. O’r rhain mae grŵp o bedwar wedi dod i’r amlwg sy’n arwain datblygiad elusen newydd, annibynnol yn Rhondda – Generation Rhondda. Y dull hwn o fuddsoddi mewn pobl i arwain newid lleol yw un yr ydym yn bwriadu adeiladu arno.
Un o swyddogaethau craidd Pobl a Gwaith yw:
- Hyrwyddo gwerth addysg a dysgu fel offeryn ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a hyrwyddo cyflogaeth, trwy raglen o brosiectau ymchwil gweithredu cymunedol.
Cliciwch ar logo isod i ddysgu mwy am rai o’r gwaith diweddaraf sy’n seiliedig ar leoliad a wnaed gan Bobl a Gwaith.