Cysyllyu a nî
Cyfarwyddwr: Dr Sarah Lloyd-Jones
Pennaeth Ymchwil: Dr Duncan Holtom
Ers ymuno â Pobl a Gwaith yn 2004, mae Duncan wedi arbenigo mewn ymchwil ym maes addysg, pontio ieuenctid ac adfywio cymunedol, ac mae wedi arwain ymchwil proffil uchel ac astudiaethau gwerthuso ar gyfer Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Sefydliad Joseph Rowntree ac Achub y Plant. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft:
Gwerthuso RAISE, rhaglen £45m+ i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol gwael;
Y rhaglen pum mlynedd o ymchwil weithredu i lywio diwygio’r fframwaith statudol ar gyfer anghenion addysgol arbennig;
Yr arolwg cenedlaethol cyntaf o fwlio mewn ysgolion yng Nghymru;
Gwerthuso Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion Cymru;
Ymchwil i Dlodi ac Ethnigrwydd yng Nghymru, ar gyfer Sefydliad Joseph Rowntree;
Y gwerthusiad deng mlynedd o Buddsoddi’n Lleol.
Cyn ymuno â Pobl a Gwaith gweithiodd Duncan fel Darlithydd Cyswllt ar gyfer y Ganolfan Astudiaethau Datblygu ym Mhrifysgol Cymru Abertawe a’r Ganolfan Gwasanaeth Cymunedol ac Ymchwil ym Mhrifysgol Queensland.
Ymchwilydd Arweiniol: Rhodri Bowen
Ymchwilydd: Emma Preece
Mae Emma Preece wedi graddio’n ddiweddar â MSc Polisi Cymdeithasol a Chyhoeddus o Brifysgol Caerdydd, wedi’i geni a’i magu yng Nghymru (Caerdydd). Ar lefel israddedig astudiodd Ddaearyddiaeth Ddynol, gan ganolbwyntio ar faterion megis cydraddoldeb, ymchwil cymdeithasol, a dulliau. Emma yw’r ymchwilydd diweddaraf o fewn y tîm Pobl a Gwaith ac mae’n angerddol ac yn gyffrous am yr holl waith rydym yn ei wneud. Cyn ymuno â Pobl a Gwaith bu Emma yn gweithio yn ysgolion De Cymru fel goruchwylydd llanw, gan weld yn uniongyrchol rai o’r materion sy’n wynebu pobl ifanc heddiw. Y tu allan i’r gwaith mae Emma yn chwaraewr rygbi brwd iawn i Llandaff North ac yn hyfforddwraig Rygbi Merched Prifysgol Caerdydd. Yn y brifysgol cyfunodd Emma ei hangerdd dros chwaraeon a chydraddoldeb i gynhyrchu ymchwil ar brofiadau a diogelwch myfyrwyr LGBTQ+ mewn chwaraeon. Mae hyn yn rhywbeth y mae hi’n parhau i eiriol drosto trwy ei hyfforddiant.
E-bost: emma.preece@peopleandwork.org.uk
Ffôn: 029 2048 8536
Gweithiwr Prosiect: James Watts-Rees
E-bost: james.watts-rees@peopleandwork.org.uk
Ffôn: 07392 072115
Rheolwr Menter Play It Again Sport: Natasha Burnell
Roedd Natasha wedi gweithio gyda sefydliadau trydydd sector yn ei chyflogaeth flaenorol a oedd wedi hwyluso newid ffocws, ac wedi ysgogi cyd-greu Grŵp Cymuned Creadigol Rhondda – grŵp sy’n ymdrechu i ddarparu gweithgareddau celfyddydol hygyrch i’r rheini yn y Rhondda.
Mae hi wedi byw yn yr ardal leol am bedair blynedd ar ddeg ar ôl symud i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae Natasha wedi gweithio mewn rolau amrywiol mewn sawl manwerthwr gwahanol ac mae ganddi brofiad o reoli pobl a stoc, creu a darparu rhaglenni hyfforddi ochr yn ochr â marsiandïaeth a gyrru masnacheiddio.