Sicrhau bod newid er gwell yn bosibl drwy ymchwil gymhwysol gadarn

Sefydlwyd Pobl a Gwaith ym 1984 i ymgymryd ag ymchwil gymhwysol i helpu pobl i ymdopi ag effeithiau economaidd a chymdeithasol cau diwydiant trwm yng nghymoedd De Cymru. Ers hynny, mae ymchwil a gwerthuso ar gyfer y sector cyhoeddus a gwirfoddol wedi bod yn rhan annatod o’n gwaith.

Mae Pobl a Gwaith yn darparu ystod o wasanaethau ymchwil i’n cleientiaid yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol gan gynnwys:

  • ymchwil i ddeall bywydau, dyheadau a dewisiadau pobl yn well;
  • arfarniad o opsiynau ac astudiaethau dichonoldeb i asesu cost-effeithiolrwydd tebygol prosiectau a rhaglenni;
  • gwerthusiadau rhaglenni a phrosiect, i archwilio dylunio, gweithredu ac effaith, er mwyn llywio arfer a darparu atebolrwydd; ac
  • adolygiadau sefydliadol er mwyn adolygu a gwella perfformiad yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym yn cynnig arbenigedd ym maes ymchwil meintiol ac ansoddol, ac ymchwil sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws, arolygon, adolygiadau llenyddiaeth systematig a dadansoddi data meintiol. Rydym yn gweithio ledled Cymru ac Ewrop.

Mae llawer o’n gwaith yn rhyng-sector, gan ganolbwyntio ar wahanol gyfnodau cwrs bywyd (cwmpasu plentyndod i henoed), gwahanol feysydd polisi (gan gynnwys yn fwyaf nodedig addysg, iechyd a pholisi cymdeithasol), gwahanol fathau o sefydliad, polisi a rhaglen (yn amrywio o’r lleol i’r Ewropeaidd) a grwpiau gwahanol (gan gynnwys gwahanol grwpiau ethnig ac ieithyddol, gwahanol ryw a phobl anabl). Y llinyn aur sy’n rhedeg drwy ein gwaith, yw ein hymrwymiad i wneud newid er gwell yn bosibl.

Isod ceir rhai enghreifftiau o’r nifer o astudiaethau a gynhaliwyd gan Pobl a Gwaith dros y 33 mlynedd diwethaf.

Dyfodol Disglair

Mae Brynefydd, (mae enwau’r gymuned a’r ysgolion wedi’u newid) yn gymuned fach yng nghymoedd De Cymru. Mae’r ardal wedi dioddef dirywiad economaidd, ac yn gyffredin â llawer o ardaloedd difreintiedig eraill, mae aelodau o’r gymuned a’r ysgolion yn pryderu oni bai bod modd gwella cyrhaeddiad addysgol pobl ifanc o’r gymuned, ni ellir gwrthdroi’r dirywiad. Mae’r astudiaeth hon, a gyllidir gan Gronfa Syniadau Newydd Llywodraeth Cymru a’i chynnal gan Pobl a Gwaith, y Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf leol a’r Ganolfan er Ymchwil Addysg Gynhwysol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn trafod y syniadau sylfaenol pam mae cyrhaeddiad addysgol llawer o blant Brynefydd ond nid y cyfan ohonynt, yn is na’r hyn a ddisgwylir gan athrawon a’r gymuned.

I Want Some of That

Mae Trailblazers a Learning Brokers yng Nghymoedd De Cymru yn astudiaeth a gyllidir gan Gronfa Syniadau Newydd Llywodraeth Cymru. Nod yr astudiaeth hon oedd deall yn well effaith modelau rôl addysgol mewn cymunedau difreintiedig yn ne Cymru.

A Night on the Books (Gwerthusiad interim o Build It)

“Weithiau rwy’n cael noson i mewn yn darllen llyfrau yn lle mynd allan gyda’r bechgyn. Rwy’n astudio nawr am fy mod yn gweld yr angen i wneud hynny”: Prentis Build It

Roedd Build It yn brosiect pum mlynedd i drafod beth sydd ei angen i alluogi un ar bymtheg o bobl ifanc heb lawer o gymwysterau, neu ddim cymwysterau o gwbl, o gymunedau difreintiedig i gyflawni cymwysterau’r diwydiant ar Lefelau 2 a 3 NVQ a datblygu’r sgiliau ‘meddal’ a’r sgiliau ‘bywyd’ roedd eu hangen arnynt i gynnal cyflogaeth am weddill eu hoes. Dangosodd y prosiect nad yw methiant unigolion i gyrraedd NVQ lefel 2 yn yr ysgol yn golygu nad oedd ganddynt y gallu i lwyddo pe baent yn cael ail gyfle gwirioneddol. Mae’r adroddiad hwn yn darparu tystiolaeth hanfodol ar yr hyn sydd ei angen i alluogi’r unigolion hyn i lwyddo.