Rhoi llais i bobl ifanc drwy ymchwil a gweithredu cymunedol a arweinir gan ieuenctid

Mae’r prosiect What We Say yn ceisio grymuso grwpiau o bobl ifanc yn y Rhondda ar y materion sydd bwysicaf iddynt. Penderfyniad pob grŵp yw sut i redeg pob prosiect a bydd y bobl ifanc yn penderfynu sut a beth i ganolbwyntio arno, sut i fynd i’r afael â’r mater a’r ffordd orau o ymdrin â hyn yn uniongyrchol.

Sut mae’n gweithio? Mae pob grŵp a phob prosiect yn wahanol a gellir cynorthwyo pobl ifanc i gydlynu eu hymchwil eu hunain, ymgynghori, gwerthuso, ymgyrchu neu weithgarwch codi ymwybyddiaeth. Ar ôl ei gwblhau, bydd pob grŵp yn cael ei gynorthwyo i weithredu ar eu gwaith a cheisio cyflawni newid i bobl ifanc sy’n byw yn y Rhondda.

 

Enghreifftiau o Brosiectau

Roedd grŵp o Glyncoch am wybod beth oedd barn pobl ifanc yn eu cymuned ar yr ysgol a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Cynhaliwyd eu hymchwil gyda disgyblion Blwyddyn 9 yn eu hysgol leol a rhannu eu canfyddiadau â Swyddogion Llywodraeth Cymru a threfnu pedwar gweithdy ‘ymdopi â straen’ yn eu hysgol.

Ymchwiliodd grŵp yn y Rhondda i’r hyn roedd pobl ifanc yn eu clwb ieuenctid lleol yn meddwl am fywyd ysgol. Cafwyd bod y rhai sy’n mynd i drafferth yn yr ysgol yn hoffi mynychu a pharatowyd rhestr o bethau y dylai athrawon feddwl amdanynt wrth ymdrin â phobl ifanc sy’n torri’r rheolau yn yr ysgol.

Gwnaeth grŵp o’r Rhondda drafod eu syniadau am sut beth yw byw mewn cymuned yn y Rhondda. Yn ogystal â’r gwelliannau roeddent yn credu y gellid eu gwneud, cydnabuwyd agweddau cadarnhaol byw yn eu cymuned a nodwyd y clwb ieuenctid lleol fel ffynhonnell bwysig o gymorth, ar lefel bersonol a dysgu.

 

 

 

Cyswllt:

James Hall – 07800 957512

James.Hall@peopleandwork.org.uk