Build It Glyncoch

Cafodd prosiect Build It Glyncoch ei gyllido am bum mlynedd a hanner gan Sefydliad Rank (2008-2013). Drwy’r prosiect cyflwynwyd nifer o brosiectau gwirfoddol dysgu seiliedig ar sgiliau yng Nglyncoch, fel addurno, ymdrin â materion amgylcheddol a phrosiectau gwaith coed.

Yn ystod ei amser gyda Pobl a Gwaith, helpodd Hywel Williams lawer o bobl ifanc ac oedolion i gael profiad gwaith, mynediad i hyfforddiant, prentisiaethau a chyflogaeth yn y diwydiant adeiladu. Mae hefyd wedi arwain llawer o brosiectau adeiladu ac amgylcheddol cymunedol yng Nglyncoch ac mewn manau eraill sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y dirwedd, cymunedau ac ar fywydau unigol. Ochr yn ochr â’r gweithgarwch hwn, llwyddodd Hywel i astudio ac ennill TGAU mathemateg a Saesneg, tystysgrif Astudiaethau Sylfaenol Lefel 3 ac yna gradd anrhydedd mewn Addysg Anffurfiol (gan gael 2:1). Mae taith ddysgu broffesiynol a phersonol Hywel yn nodweddiadol o’r hyn mae Pobl a Gwaith yn ceisio ei wneud: rhoi sgiliau addysg a bywyd i aelodau staff a chymunedol a fydd, yn eu tro, yn dylanwadu ar fywydau eraill, ac felly’n helpu i dorri tlodi cylchol. Gellir gweld fideo sy’n amlinellu’r gwaith gwych yng Nglyncoch ar ein Sianel YouTube.

Yn dilyn y prosiect, mae sawl hyfforddai wedi mynd i’r coleg neu gyflogaeth. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd wedi gwirfoddoli gyda Build It wedi symud ymlaen i waith, coleg, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli eraill. Amcangyfrifir bod tua 50 o bobl yng Nglyncoch wedi cymryd rhan mewn prosiectau Build It gyda llawer mwy wedi cael cysylltiadau achlysurol drwy gyfleoedd Bancio Amser a drefnir yn y pentref (e.e. mae her haf amgylcheddol bob blwyddyn sy’n cynnwys pob oedran).

O fis Hydref 2013, Build it Together oedd yr enw ar Build It Glyngoch (i bwysleisio nad yw’r gwaith wedi’i gyfyngu i un pentref) a chafodd ei redeg ar sail contract. Roedd Pobl a Gwaith yn ffodus i gael gwirfoddolwr am dair blynedd, sef David Quinn (a elwir yn ‘Digger’), a gymerodd brosiectau amrywiol wedi’u teilwra ar ôl i Hywel adael fel gweithiwr llawrydd a delir yn ôl y galw gan amrywiaeth o bartneriaid. Roedd y rhan fwyaf o’r prosiectau hyn yn ymwneud â chynnwys pobl ifanc mewn sgiliau ymarferol fel dull i’w hailymgysylltu mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Cafodd Digger ei fentora gan Hywel yn y gwaith hwn: gwnaeth y ddau gynorthwyo a mentora nifer o bobl ifanc leol a’u helpu i gael mynediad i goleg, prentisiaethau a chyflogaeth. Cafodd arwyddair Sefydliad Ranki “carreg yn y pwll” ei wireddu yn Build It Together! Yn 2015 cafodd gwaith Build It Together ei drosglwyddo i fenter gymdeithasol gwaith ieuenctid leol, Go-Connect Wales a gyflogodd Digger fel gweithiwr llawrydd a datblygodd agwedd fenter ar y prosiect. Y flwyddyn ganlynol, cafodd Digger gyflogaeth gydag Ymddiriedolaeth Adeiladu Ieuenctid Cymru fel eu Harweinydd Prosiect, gan weithio gyda phobl ifanc agored i niwed ar brosiectau adeiladu cymunedol. Hyfforddodd Hywel fel athro ac mae bellach yn ddarlithydd sgiliau adeiladu yng Ngholeg Gwent.

 

 

Rank Logo

 

Cyfle i Ddysgu

Chance to Learn – Cyllidwyd gan Sefydliad Esmee Fairbairn i ddechrau o 2008 tan 2011 ac yna eto am dair blynedd arall rhwng 2012 a 2015 – gweithiodd gydag aelodau cymunedol ym mhob math o ddysgu ôl-16 gyda’r bwriad o wella mynediad i addysg prif ffrwd a chyfleoedd hyfforddi a sicrhau bod y myfyrwyr a’r hyfforddeion hyn yn cael eu cadw. O bryd i’w gilydd roedd hyn yn golygu bod angen i’r Cydlynydd Dysgu gynnal cwrs i fodelu’r hyn sy’n bosibl ond fel arfer y syniad oedd helpu darparwyr eraill (o sectorau statudol a’r trydydd sector) i arolygu anghenion lleol, recriwtio a helpu gyda dilyniant. Cynyddodd y prosiect y nifer sy’n ymwneud â hyfforddiant ac addysg yng Nghlyncoch dair gwaith dros dair blynedd gyda thua 150 o bobl yn cael budd o dros 400 o achrediadau yn 2011.

Roedd y model a ddatblygwyd gan Sue Barrow yn ystod ei hamser fel Arweinydd Prosiect yn sail i gais arall gennym i’r EFF er mwyn datblygu rôl Cydlynydd Dysgu Cymunedol (Katie Gillett) gan weithio mewn partneriaeth â Glyncoch Regeneration Ltd., y cwmni datblygu cymunedol sydd wedi’i leoli a’i drefnu yn lleol. Pedair elfen allweddol y rôl hon oedd:-

  1. Comisiynydd dysgu cymunedol – symud darpariaeth dysgu cymunedol o farchnad gwerthwr – lle daw darparwyr i mewn, sefydlu cwrs a gwahodd pobl i gofrestru – i farchnad prynwr lle mae’r gymuned yn cyd-drafod â darparwyr pa gyrsiau sydd eu hangen, ar ba lefel, am ba hyd ac yn gysylltiedig â pha lwybrau dilyniant;
  2. Rheoli ansawdd – monitro sesiynau addysgu gyda chyfranogwyr ac adolygu cyflawniad, adborth gan ddysgwyr ac addasrwydd y ddarpariaeth i ddewis deilliannau’r dysgwyr;
  3. Hyfforddwr a mentor personol – dal dwylo, perswadio ac annog dysgwyr i gredu y gallant roi cynnig ar gwrs, y dylent ddal ati pan fydd pethau’n anodd a’u bod yn gallu ei gwblhau. Mae hyn yn cynnwys helpu dysgwyr i beidio â mynd oddi ar y cledrau o ganlyniad i argyfyngau teuluol, problemau iechyd, anawsterau ariannol neu anghydfodau gyda dysgwyr eraill, yn ogystal â helpu gydag astudiaethau;
  4. Brocer a datblygwr partneriaeth – adeiladu a chynnal perthnasoedd â darparwyr dysgu a chymorth a hwyluso eu rhyngweithio i ddatblygu ansawdd y ddarpariaeth.

Rydym yn credu bod angen rhagor o brofi a mireinio ar y model hwn yn lleol ac yna dylid ei hyrwyddo fel dull o fynd i’r afael â chyrhaeddiad a dyheadau addysgol isel.

 

Cymunedau sy’n Canolbwyntio ar Ysgolion

O 2009 tan 2012 gweithiodd Cymunedau sy’n Canolbwyntio ar Ysgolion (SFC) gyda phum ardal Cymunedau yn Gyntaf yn Rhondda Cynon Taf i adeiladu cysylltiadau rhwng y gymuned ac ysgolion a chynorthwyo disgyblion a’u teuluoedd i fanteisio i’r eithaf ar eu blynyddoedd ysgol. Cyllidwyd y gwaith hwn gan Sefydliad Paul Hamlyn yng Nglyncoch ac arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru yn y Rhondda. Ceisiodd y prosiect annog, ennyn brwdfrydedd a chyffroi teuluoedd a chymunedau lleol gyda’r posibiliadau a all newid bywyd sydd ar gael drwy addysg gan arwain at well cyflogaeth, iechyd a llesiant. Roedd ysgolion, cymunedau a theuluoedd yn gwerthfawrogi’r prosiect cymaint daeth yn rhan anatod o’r cynlluniau clwstwr ar gyfer ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Porth a Phontypridd. Mae’r model ymgysylltu hwn, sy’n defnyddio dull addysgol anffurfiol (e.e. gwaith ieuenctid a chwarae) i annog teuluoedd a chymunedau i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael mewn addysg ffurfiol (yr ysgol a’r coleg), yn rhywbeth rydym yn rhannu ag eraill fel ffordd bosibl o dorri’r cylch o gyrhaeddiad addysgol isel a geir mewn ardaloedd difreintiedig yn aml.

Dilynodd elfen gyllid Sefydliad Paul Hamlyn (PHF) ddau grŵp blwyddyn o Glyncoch wrth iddynt ddatblygu drwy Ysgol Uwchradd Pontypridd ac yna i wneud penderfyniadau ar ôl derbyn eu canlyniadau TGAU. Gweithiodd Andrea Williams (a olynodd Sam Kear fel yr Arweinydd Prosiect) gyda’r disgyblion a’u teuluoedd a darparu cymorth i wella presenoldeb, cyflawniad a chynnwys y teulu mewn dysgu. Rydym yn ddiolchgar iawn bod PHF wedi cyllido’r prosiect am dair blynedd arall (2012-15) a alluogodd Andrea i ddilyn y garfan hon o ddisgyblion i addysg bellach, prifysgol, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r 43 o bobl ifanc sy’n cael eu cynorthwyo yn cael eu holrhain yn awr drwy Addysg Bellach, hyfforddiant, cyflogaeth neu brofiad gwaith fel rhan o astudiaeth Phd Prifysgol Caerdydd sy’n ceisio deall sut effeithiodd y prosiect hwn ar fywydau’r garfan o bobl ifanc a’u teuluoedd. Bydd yr ymchwil hon yn galluogi Pobl a Gwaith i rannu’r dysgu o’r prosiect hwn mewn fformat academaidd.

Yn dilyn llwyddiant y prosiect hwn, mae Pobl a Gwaith a Cymunedau yn Gyntaf STAR yng Nghaerdydd wedi gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Uwchradd Willows (Caerdydd) ers mis Medi 2015 gyda phrosiect sy’n targedu presenoldeb a chyrhaeddiad disgyblion. Mae’r prosiect Swyddog Presenoldeb Cymunedol hefyd yn cael ei gynorthwyo gan Sefydliad Paul Hamlyn

Mae Pobl a Gwaith yn ddiolchgar iawn am y cyllid a’r cymorth a ddarperir gan Sefydliad Paul Hamlyn.

 

Cymunedau Dynamig

Wrth weithio gyda’r prosiect Cymunedau sy’n Canolbwyntio ar Ysgolion yn Rhondda a Glyncoch, gofynnodd Mark Hutton a allai ddefnyddio chwaraeon fel dull o ymgysylltu â phobl ifanc. Mae gan Mark amrywiaeth eang o gymwysterau chwaraeon a ffitrwydd felly cytunwyd y dylai ddefnyddio ei sgiliau i helpu pobl ifanc i wneud cynnydd mewn addysg a magu eu hyder. Gwnaeth Mark, ar y cyd ag asiantaethau eraill ac aelodau tîm, ddefnyddio gemau tîm, dosbarthiadau ffitrwydd, gweithgareddau cymunedol ac asesiadau llesiant unigol yn effeithiol. Hwn oedd y tro cyntaf i Pobl a Gwaith ddefnyddio chwaraeon a ffitrwydd i ymgysylltu â phobl ifanc a’u teuluoedd.

Yn dilyn llwyddiant y dull hwn, penderfynodd Pobl a Gwaith geisio cyllid i greu prosiect chwaraeon a ffitrwydd cymunedol i’r Rhondda a Glyncoch fel dull o ddatblygu gwirfoddolwyr a gallu ac adnoddau cymunedol. Y prif syniad oedd peidio â chynnal grwpiau chwaraeon i aelodau o’r gymuned ond eu cyflwyno i gyfleoedd chwaraeon gyda’r nod o’u cynorthwyo i drefnu a chynnal eu timau a’u grwpiau cymunedol eu hunain yn y pen draw. Gweithiodd hyn yn dda yn y ddwy ardal a chafodd ei gyllido gan Comic Relief rhwng 2012 a 2015 (pan ddechreuodd y prosiect ganolbwyntio mwy ar bobl ifanc a dechreuodd gael cyllid gan Sefydliad Rank). Mae sawl unigolyn, tîm a digwyddiad wedi datblygu yn sgil Cymunedau Dynamig, gan gynnwys prosiect rhwng y cenedlaethau yn cynnwys tîm rygbi merched a sefydlwyd yn ddiweddar (a oedd wedi cael hyfforddiant Arweinwyr Chwaraeon gan Mark) gan addysgu ymarferion cadair freichiau i bobl hŷn.